Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diogelu llesiant cymunedau pysgota Cymru wrth iddynt wynebu ansicrwydd ac effaith economaidd niweidiol bosibl Brexit.
Mae'r cyhoeddiad, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Sefydliad Iechyd Meddwl, yn nodi effeithiau iechyd a llesiant yr heriau a'r ansicrwydd niferus sy'n wynebu cymunedau pysgota yng Nghymru.
Mae'r materion hirsefydlog hyn yn debygol o gael eu gwaethygu ymhellach gan Brexit, gan ddod â ffynhonnell ychwanegol o straen i dros 800 o weithwyr a'u teuluoedd.
Mae'r adroddiad yn galw am fwy o weithredu i atal ansicrwydd rhag digwydd yn y lle cyntaf, i ddiogelu rhag yr effaith negyddol ar lesiant meddyliol, a hyrwyddo iechyd a llesiant yng nghymunedau pysgota Cymru. Mae iechyd da, mae'n dadlau, yn hanfodol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector i gynnal bywoliaeth hyfyw i'w teuluoedd.
Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso: “Am genedlaethau mae ein cymunedau pysgota ac arfordirol wedi ymateb i galedi drwy ddefnyddio eu cryfderau sylweddol eu hunain. Fodd bynnag, yn aml nid yw'r ffocws ar eu hiechyd a'u llesiant yn cael blaenoriaeth.
“Er bod Brexit yn bryder, mae ein hadroddiad newydd yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o heriau eraill ym myd pysgota heddiw, a'r adfyd hwn sy'n cronni sy'n rhoi pwysau gormodol ar y gymuned bysgota.
“Mae angen i ni weithio gyda chymunedau pysgota i gydlynu cymorth yn well, integreiddio iechyd, ac annog mynediad cynnar i gymorth pan fo angen.”
Mae’r adroddiad yn ystyried effaith gronnol ansicrwydd a ffactorau economaidd ar anghenion llesiant y cymunedau pysgota ac arfordirol.
Wedi'i dominyddu gan longau bach gydag ystod arfordirol gyfyngedig, mae'r fflyd bysgota yng Nghymru yn dibynnu ar allforio ac ar lwybrau masnach di-dor gyda thros 90 y cant o'r gwerthiannau o gynnyrch ffres a byw yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'r dibyniaethau hyn yn gadael y sector yn agored iawn i amrywiadau economaidd, sy'n achosi pryder cynyddol i unigolion sy'n gweithio yn y sector pysgod môr a physgod cregyn yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn dod i'r casgliad mai dull iechyd cyhoeddus wedi'i lywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael, a'i gydgynhyrchu gyda'r gymuned bysgota, yw'r unig ffordd gynaliadwy o helpu i feithrin cydnerthedd yn y sector a mynd i'r afael â materion allweddol iechyd meddwl a llesiant
Darllenwch y datganiad llawn i'r wasg i weld beth oedd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a'r Fishermen’s Mission i'w ddweud. Gallwch hefyd ddarllen yr adroddiadau llawn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
A new report highlights the importance of protecting the wellbeing of Welsh fishing communities as they face up to the uncertainty and potential detrimental economic impact of Brexit.
The publication, co-authored by Public Health Wales’ Research & Evaluation Division with the Mental Health Foundation, identifies the health and wellbeing impacts of the many challenges and uncertainties facing fishing communities in Wales.
These longstanding issues are likely to be further exacerbated by Brexit, bringing an extra source of stress to over 800 workers and their families.
The report calls for more action to prevent uncertainty occurring in the first place, to protect against the negative impact on mental wellbeing, and to promote health and wellbeing in Wales’ fishing communities. Good health, it argues, is critical to those working in the sector to maintain viable livelihoods for their families.
Dr Alisha Davies, Head of Research and Evaluation, said: “For generations our fishing and coastal communities have responded to hardship by drawing on their own considerable strengths. However, the focus on their health and wellbeing is often not prioritised.
“Our new report highlights that – while Brexit is a concern – there are many other challenges in fishing today, and it is this accumulation of adversity which puts undue pressure on the fishing community.
“We need to work with fishing communities to better coordinate support, integrate health, and encourage early access to help when needed.”
The report considers the cumulative impact of uncertainty and economic factors on the wellbeing needs of the fishing and coastal communities.
Dominated by small vessels with a limited coastal range, the Welsh fishing fleet is export-dependent and relies on seamless trade routes with over 90 per cent of its sales of fresh and live produce going to the European Union.
These dependencies leave the sector extremely vulnerable to economic fluctuations, which is a cause of increasing anxiety to individuals that work in the sea fish and shellfish sector in Wales.
The report concludes that public health approach informed by the best available evidence, and co-produced with the fishing community, is the only sustainable way to help build resilience in the sector and address the key issues of mental health and wellbeing.
Read the full press release to see what the Mental Health Foundation and the Fishermen’s Mission had to say. You can also read the full reports on the Public Health Wales website.