Bore da gyfeillion,
Gobeithio eich bod i gyd yn iach ac yn llwyddo i gadw'n ddiogel.
Yng nghyfarfod y Bwrdd wythnos diwethaf, buom yn ystyried y ffaith bod Iechyd Cyhoeddus Cymru ar drobwynt am yr ail waith eleni, wrth i COVID-19 ddal gafael ar y wlad eto. Ym mis Chwefror, rhoddwyd y sefydliad cyfan ar waith i gefnogi'r ymateb i COVID ac, wythnos diwethaf, adolygwyd beth yn rhagor yr oedd angen ei wneud yn awr, wrth i lwyth gwaith y pandemig ddwysáu.
Trafodwyd newidiadau arfaethedig i'r Cynllun Gweithredol a chlywsom bob un o'r Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO) yn amlinellu cynlluniau ar gyfer y 12-18 mis nesaf mewn perthynas â'r ymateb i ddiogelu iechyd, iechyd y boblogaeth ac ailgychwyn gwasanaethau.
Canmolodd y Bwrdd ansawdd y Cynllun – roedd yn glir iawn ac yn hawdd ei ddarllen – a diolch i Nathan Jones, Sally Attwood a'r holl arweinwyr cynllunio am ddod â darn mor fawr o waith ynghyd mewn cyfnod mor fyr. Cymeradwyodd y Bwrdd y Cynllun, ac mae'r manylion yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher. Rydym yn gwybod faint o bobl sydd wedi cefnogi'r camau a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â COVID eisoes eleni ac mae ein cyd-Aelodau o'r Bwrdd wedi gofyn i ni ddiolch i bawb dan sylw.
Rydym yn gwybod hefyd mor anodd yw oedi gwaith nad yw'n ymwneud â Covid er mwyn rhoi camau ar waith unwaith eto - mae’n anodd ac roedd yn benderfyniad anodd i'w wneud i'r Bwrdd.
I ffwrdd o'r Bwrdd, rydym wedi dechrau galw heibio, drwy wahoddiad, i wylio cyfarfodydd tîm, fel ffordd arall o gadw mewn cysylltiad; roeddem yn falch iawn o ymuno â Sharon Hillier a'i Huwch Dîm Rheoli yn gynharach yr wythnos hon. Cawsom y cyfle i siarad drwy'r heriau sy'n wynebu'r Tîm wrth iddynt barhau i ailgychwyn y rhaglenni sgrinio a chlywed am y syniadau arloesol niferus i hyrwyddo mynediad a nifer y rhai sy'n cael eu sgrinio. Gwnaeth y syniadau hynny, a'r proffesiynoldeb llwyr a welwyd gan bawb, gryn argraff arnom. Roedd yr un ymdeimlad hwnnw o broffesiynoldeb yn amlwg iawn hefyd yn ddiweddarach yr un diwrnod mewn Fforwm CCDC. Rhoddodd y CCDC ddealltwriaeth werthfawr o'r pwysau sy'n eu hwynebu ar draws y system a phwysigrwydd yr achos busnes diogelu iechyd sydd ar y gweill ar gyfer buddsoddiad ychwanegol. Cyfarfu'r Bwrdd eto ddiwedd wythnos diwethaf i weld yr Achos Busnes am y tro cyntaf, cyn ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru. Rhoddodd Quentin grynodeb o'r weledigaeth uchelgeisiol a nodwyd yn y cynigion; croesawodd y Bwrdd y bwriad strategol, gan ganmol pawb a oedd yn rhan o'r broses o wneud yr achos ac ymrwymodd iddo'n llawn. Roedd y trafodaethau hefyd yn cynnwys mwy o gymorth ar gyfer y sefyllfa bresennol, sef pwynt arall a ddaeth i'r amlwg yn gryf gan y CCDC.
Rydym yn trefnu cyfres o ymweliadau rhithwir yn ystod y misoedd nesaf ac edrychwn ymlaen at ddal i fyny â chymaint ohonoch ag sy'n bosibl. Rydym yn dechrau'r wythnos hon drwy ddweud helo wrth Mark Bellis a'i Uwch Dîm Rheoli.
Rydym hefyd wedi bod yn chwifio'r faner dros waith Iechyd Cyhoeddus Cymru ar iechyd y boblogaeth ac anghydraddoldebau iechyd, gan gynnwys mewn digwyddiad Cadeiryddion y GIG a gynhaliwyd gan Gydffederasiwn GIG y DU. Clywodd Cadeiryddion y GIG o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon am ein gwaith arloesol yn y maes hwn, a diolch yn fawr i Mariana a Sumina am y deunydd briffio. Cafodd ein gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd sylw amlwg ac mae'n bleser gennym gadarnhau llofnodi'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth Cymru. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ffurfioli'r berthynas gadarnhaol sy'n datblygu gyda Sefydliad Iechyd y Byd, gan gadarnhau Cymru fel gwlad sydd â llawer i'w gyfrannu at yr agenda cydraddoldeb a hawliau iechyd, ac yn ehangach.
Wrth i ni aros i weld effaith y cyfnod atal byr, ac wrth i'r galwadau niferus ar eich gwybodaeth a'ch arbenigedd barhau, rydym am i chi wybod, er na allwn gerdded yn eich esgidiau, rydym yn cerdded ochr yn ochr â chi. Rydym yn falch iawn ohonoch a phopeth rydych yn ei wneud i gefnogi pobl Cymru yn y cyfnod difrifol a heriol hwn.
Diolch yn fawr iawn,
Jan a Kate
Bore da gyfeillion,
We hope you are all well and managing to stay safe.
At the Board meeting last week, we reflected on the fact that Public Health Wales is at a watershed moment for the second time this year, as COVID-19 takes hold of the country again. In February, we mobilised the whole organisation in support of the COVID response and, last week, we reviewed what more needed to be done now, as the pandemic workload intensified.
We discussed proposed changes to the Operational Plan and heard each of the Senior Responsible Officers (SROs) outline plans for the next 12-18 months in respect of the health protection response, population health and service reactivation.
The Board commended the quality of the Plan – it was very clear and easy to read – and our thanks go to Nathan Jones, Sally Attwood and all the planning leads for pulling together such a major piece of work in so short a time. The Board approved the Plan, details of which are being published on Wednesday. We know just how many people have supported COVID mobilisation already this year and our colleague Board members have asked us to thank everyone involved.
We know also how hard it is to pause non-covid work to mobilise once again- it is a tough call and the Board found it a difficult decision to take.
Away from the Board, we’ve started dropping in, by invitation, on team meetings, as another way of keeping in touch; we were delighted to join Sharon Hillier and her Senior Management Team earlier this week. We had the opportunity to talk through the challenges facing the Team as they continue reactivating the screening programmes and hear of the many innovative ideas to promote access and uptake. We went away very impressed with those ideas and with everyone’s consummate professionalism. That same sense of professionalism was also very much in evidence later the same day at a CCDC Forum .The CCDCs provided valuable insights into the pressures facing them across the system and the importance of the forthcoming health protection business case for added investment. The Board met again at the end of last week to take a first look at the Business Case, before subsequent submission to Welsh Government. Quentin summarised the ambitious vision set out in the proposals; the Board welcomed the strategic intent, commended all those involved in making the case and signed up to it in full. Discussions also included more support for the here and now, another point that came across strongly from the CCDCs.
We are scheduling a series of virtual visits in the coming months and look forward to catching up with as many of you as possible. We are beginning this week by saying hello to Mark Bellis and his Senior Management Team.
We have also been flying the flag for Public Health Wales’ population health and health inequalities work, including at an NHS Chairs event run by the UK NHS Confederation. NHS Chairs from England, Scotland and N Ireland heard about our ground breaking work in this area, and a big thank you to Mariana and Sumina for the briefing material. Our work with the WHO featured prominently and we are delighted to confirm the signing of the Memorandum of Understanding (MoU) between the WHO and the Welsh Government. The MoU formalises the positive and developing relationship with WHO, confirming Wales as a country with much to contribute to the health equity and rights agenda, and more widely.
As we wait to see the impact of the fire-break, and as the many calls on your knowledge and expertise continue, we want you to know that, whilst we can’t walk in your shoes, we are walking alongside you. We are inordinately proud of you and all that you’re doing to support the people of wales in these sobering and challenging times.
Diolch yn fawr iawn,
Jan and Kate